Skip to content
01993 870 161 info@dancetohealth.org

Y Rhaglen Iechyd Da-wns yng Nghymru

Mae Iechyd Da-wns yn cynnig ffordd hwyliog a chymdeithasol i bobl 50 oed a throsodd i ymgorffori gweithgaredd corfforol, a hyfforddiant cryfder a chydbwysedd yn benodol, i’w bywydau bob dydd.

Rhaglen wyneb yn wyneb

Mae’r rhaglen wyneb yn wyneb, sydd am ddim i’w mynychu, bellach yn cael ei chynnal mewn 4 lleoliad yn Ne Cymru. Mae’r sesiynau yn para hyd at 90 munud gyda 30 munud o amser cymdeithasol. Caiff y sesiynau eu dysgu gan Artistiaid Dawns proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi.

Cynhelir sesiynau wythnosol yn y lleoliadau canlynol:

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (2 sesiwn yr wythnos)
  • Treforys
  • Canolfan yr Amgylchedd
  • Swan Gardens
Two dance artists performing

Yn y Cartref

Llyfrgell Ffilmiau Cymru

O Ionawr 2025, rydyn ni’n creu llyfrgell ar-lein o 20 fideo Iechyd Da-wns i holl drigolion Cymru. Maen nhw’n ffordd wych o roi cynnig ar Iechyd Da-wns gartref, ac maen nhw’n addas ar gyfer pob lefel gallu.

I gofrestru, cliciwch yma.

I gael gwybod mwy ac i gofrestru
e-bostiwch enquiries@ae-sop.org neu ffoniwch 01993 870 161

More information about
Dance to Health

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Iechyd Da-wns
Porwch drwy ein Cwestiynau Cyffredin, sy’n cwmpasu pynciau fel beth sydd ei angen arnoch chi i gymryd rhan.

“Roeddwn i’n gyndyn i roi cynnig arni ar y dechrau oherwydd fy mod i’n nerfus ynglŷn â dod i stafell yn llawn dieithriaid. Ond rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny. Nawr pan fyddaf yn dod i sesiwn Iechyd Da-wns, rwy’n dod i weld fy ffrindiau.”

“Ar ôl ymddeol, effeithiwyd yn fwyfwy ar fy symudedd, gyda chluniau anystwyth a phoenus. Ar ôl pob sesiwn, roeddwn i’n gallu sefyll yn syth yn lle bod yn wargam, hyd yn oed dros dro, a symud o gwmpas yn fwy rhydd.”

Mwynhewch Iechyd Da-wns Ar Alw

Dyma ragflas o lyfrgell ffilmiau Iechyd Da-wns Cymru, gyda darn fideo gyda Rose a Damyanti.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch chi gofrestru ar gyfer y llyfrgell ffilmiau am ddim, fan hyn.

Dance to health

Aesop. Wittas House, Two Rivers, Station Lane, Witney, Oxfordshire OX28 4BH.

Registered Charity: 1134572 Company Number: 06998306

Dance to Health is a programme created and managed by

aesop logo

Dance to Health is a registered trademark. © 2019 Aesop.

All rights reserved.  No part of this website may be reproduced, stored in a retrieval system, or transmitted, in any form or by any means, without the prior permission in writing of Aesop.