Skip to content
01993 870 161 info@dancetohealth.org

Cwestiynau Cyffredin

Yma gallwch chi ddod o hyd i’n cwestiynau mwyaf cyffredin, wedi’u grwpio i gategorïau ‘Gwybodaeth Gyffredinol’, ‘Cymryd Rhan’ a ‘Thystiolaeth’.

Gwybodaeth Gyffredinol

CSS Closed by Default (also formatting note to read)

For readability, all links in the accordion boxes should be styled with the following: style = “color:lightgrey; text-decoration:underline”

Beth yw Iechyd Da-wns?

Rhaglen ddawns arloesol i atal cwympiadau yw Iechyd Da-wns. Mae’n ymgorffori elfennau allweddol o raglenni atal cwympiadau FaME ac Otago, a ddefnyddir gan hyfforddwyr sefydlogrwydd ystum y corff yn y GIG, gyda dosbarthiadau dawns creadigol. Mae’n ymyriad celfyddydol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ym maes gofal iechyd sy’n arwain at lawer llai o gwympiadau a chwympiadau llai difrifol ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan.

Pam mae Iechyd Da-wns yn bwysig?

Bob blwyddyn, bydd traean o bobl dros 65 oed wedi cael cwymp. Gall cwympiadau arwain at anaf difrifol, lleihau hyder i wneud gweithgareddau bob dydd ac arwain at deimlo’n ynysig yn gymdeithasol. Mae torri esgyrn oherwydd cwympiadau yn costio
£4.4 biliwn y flwyddyn i’r system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Iechyd Da-wns yn cynnig ateb pwerus. Profwyd ei fod yn lleihau cwympiadau 58%. Os oes person hŷn yn ymweld â’r adran ddamweiniau ac achosion brys ar ôl cael cwymp, y tebygolrwydd y byddant yn gleifion mewnol yw 35%. Os oes rhywun sy’n cymryd rhan yn Iechyd Da-wns yn ymweld â’r adran ddamweiniau ac achosion brys ar ôl cael cwymp, mae’r ganran yn gostwng i 13%. Mewn gair, mae’n newid bywydau.

Ar gyfer pwy mae Iechyd Da-wns?

Mae Iechyd Da-wns ar gyfer unrhyw oedolyn a allai fod mewn perygl uwch o gael cwymp. Mae hyn yn dueddol o fod yn oedolion dros 50 oed.

Ai rhaglen ymarfer corff yw Iechyd Da-wns?

Er bod y ‘dawnsio’ yn ein dosbarthiadau yn integreiddio ymarferion i atal cwympiadau, mae’n ffordd o fynegi eich hun yn artistig lawn cymaint. Drwy ymgysylltu ag amrywiaeth o arddulliau dawns, a gyflwynir gan artistiaid dawns proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi gan y PSI, mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cael y mwynhad o ymarfer dawns fel celfyddyd.

Ble mae Iechyd Da-wns yn gweithredu?

Rydyn ni’n gweithredu’n genedlaethol. Er bod ein dosbarthiadau wyneb yn wyneb wedi’u cyfyngu i rai ardaloedd, mae gennym gynlluniau i ehangu i bob cwr o’r DU dros y blynyddoedd nesaf.

Sut caiff Iechyd Da-wns ei ariannu?

Mae gan Iechyd Da-wns amrywiaeth o ffrydiau ariannu. Cafodd ein cyfnod arloesi
rhwng 2017-2020 ei ariannu’n bennaf gan grantiau. Roedd y gyllideb yn cynnwys
£2.1 miliwn drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (45%), sefydliadau elusennol (14%), ‘Cronfa Ail Hanner’ Nesta (12%), Cronfa Cyn-filwyr Hŷn (11%) a’r sector iechyd (8%).

Cymryd Rhan

Custom CSS - No display first option

– for info go here

Pa mor hir mae’r rhaglen Iechyd Da-wns yn para?

Mae pob rhaglen Iechyd Da-wns yn cynnwys dau gam gwahanol, cam gwella, sydd fel arfer yn para 26 wythnos, a cham cynnal, sydd fel arfer yn para 16 wythnos, am gyfanswm o 42 wythnos. Fel arfer mae’r rhain wedi’u gwasgaru dros gyfnod o 12 mis, gan ystyried dyddiadau pwysig fel y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Gall y rhai sy’n cymryd rhan ymuno yn ystod unrhyw gam o raglen, ond mae’n ddoeth cwblhau rhaglen gyfan.

Sut alla i gael gwybod am sesiynau yn fy ardal i?

Gallwch chi weld rhestr gyfoes o grwpiau a’u hardaloedd ar y dudalen hon. Os ydych chi’n amau ​​bod unrhyw un o’r rhestrau’n hen, gallwch chi gysylltu â ni.

A oes cyfyngiadau oedran?

Mae ein dosbarthiadau wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion yn unig. Ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, mae ein dosbarthiadau’n cynnig y budd mwyaf i’r rhai dros 50 oed, ond gall unrhyw un ymuno.

Ga i ddod â ffrind?

Wrth gwrs! Gorau po fwyaf. Os hoffai eich ffrind gymryd rhan, byddai’n ddoeth ffonio ymlaen llaw i weld os oes llefydd ar gael. Mae manylion ar gyfer gwneud hynny wedi’u cynnwys ar dudalen y grwpiau cyfredol, fan hyn.

A oes angen profiad dawnsio?

Ddim o gwbl! Mae ein dosbarthiadau yn addas i bob lefel o brofiad.

Nid yw Iechyd Da-wns ar gael yn fy ardal i. Beth alla i ei wneud?

Gallwch chi gofrestru eich diddordeb gyda ni drwy anfon neges atom fan hyn. Gallwch chi hefyd gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr e-bost fan hyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am grwpiau newydd, a dilynwch ein tudalen Facebook fan hyn, neu ein cyfrif Twitter fan hyn.

A yw Iechyd Da-wns am ddim?

Yn y rhan fwyaf o achosion, cyrff lleol neu ranbarthol sy’n talu am Iechyd Da-wns, sy’n golygu ei fod am ddim i’r rhai sy’n cymryd rhan. Mewn rhai achosion, bydd grwpiau nad oes ganddyn nhw gyllid allanol yn gofyn am gyfraniad bach tuag at dalu’r artist dawns, llogi’r lleoliad a phrynu lluniaeth.

Rydw i eisiau helpu! Sut alla i wneud hynny?

Rydyn ni wastad yn chwilio am help ychwanegol. P’un a ydych chi’n artist dawns, neu os hoffech chi wirfoddoli yn un o’n sesiynau, cysylltwch â ni! Dydyn ni ddim yn rhoi ein cyfeiriadau e-bost fan hyn, er mwyn atal sbamwyr rhag eu defnyddio, ond gallwch chi gysylltu â ni ar ein tudalen gyswllt drwy glicio fan hyn.

Tystiolaeth

CSS closed by default

A yw Iechyd Da-wns yn effeithiol?

Cynhaliodd Prifysgol Sheffield Hallam astudiaeth tair blynedd ar Iechyd Da-wns,
y gallwch ei darllen yn llawn fan hyn. Daeth i’r casgliadau canlynol.

O safbwynt iechyd:

    • Nid oes tystiolaeth bod dawns, yn gyffredinol, yn lleihau cwympiadau.
    • Serch hynny, mae Iechyd Da-wns yn lleihau’r siawns o gael cwymp 58% ymhlith cyfranogwyr mewn blwyddyn.
    • Mae 35% o bobl hŷn sydd wedi gorfod mynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys ar ôl cael cwymp, yn cael eu derbyn fel cleifion mewnol. Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan yn Iechyd Da-wns, mae’r ganran hon yn gostwng i 13%.
    • Mae rhaglenni atal cwympiadau traddodiadol wedi’u tystiolaethu’n dda ond yn ddiflas, gan arwain at ostyngiad mewn presenoldeb, ac o ganlyniad, effeithiolrwydd is. Mae Iechyd Da-wns yn datrys y broblem hon.

O safbwynt celfyddydol, mae ein hartistiaid dawns a’r rhai sy’n cymryd rhan yn gallu  tystio i bŵer creadigrwydd yn y dosbarthiadau Iechyd Da-wns. Roedd yn bwysig i ni o’r cychwyn cyntaf nad oedd ein rhaglenni’n tyfu i gyflawni nodau polisi / cymdeithasol / gwleidyddol / economaidd fel blaenoriaeth, ond yn hytrach gweithgareddau sydd â gwerth artistig cynhenid. Diolch i gymorth artistiaid dawns proffesiynol, rydyn ni’n falch o ddweud bod hyn yn parhau i gael ei gyflawni.

A yw Iechyd Da-wns wedi’i gymeradwyo gan y GIG?

Nid yn unig y mae ein holl artistiaid dawns wedi’u hyfforddi fel Hyfforddwyr Sefydlogrwydd Ystum y Corff, sy’n golygu eu bod yn gymwys i drosi’r rhaglenni atal cwympiadau FaME ac Otago, sy’n cael eu cefnogi gan y GIG, yn y dosbarthiadau, ond mae gennym gontractau parhaus gyda sawl corff yn y GIG i gyflwyno Iechyd Da-wns.

Pam celfyddydau ac iechyd?

Rydyn ni i gyd yn gwybod am bŵer y celfyddydau. Efallai ein bod ni’n meddwl am gân sy’n dod ag atgofion yn ôl, llun sy’n cyffwrdd â rhywbeth na ellir ei ddisgrifio, ffilm, llyfr neu raglen deledu sydd wedi newid y ffordd rydyn ni’n meddwl, neu wedi gadael i ni ddychmygu bydoedd newydd. Yn y bôn, mae gan y celfyddydau y pŵer i siarad â ni,
i gynnal ein diddordeb, i adlewyrchu’r byd yn ôl atom ni, ac i roi ffyrdd newydd o weld i ni.

Ym maes iechyd, mae pwyslais newydd ar ofal sydd wedi’i bersonoleiddio. Yn gynyddol, rhoddir pŵer i unigolion dros y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hiechyd. Mae hyn yn cynnwys dilyn gweithgareddau sy’n ymwneud â gofal ataliol ac adferol. Gall y prosesau sy’n gysylltiedig â gwneud hynny ymddangos yn sych neu’n rhy glinigol yn aml, gan arwain at ddiffyg defnydd neu ymgysylltiad. Gall dulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau ddatrys y broblem hon, gan ddarparu porth creadigol a mynegiannol i arferion iechyd sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Dance to health

Aesop. Wittas House, Two Rivers, Station Lane, Witney, Oxfordshire OX28 4BH.

Registered Charity: 1134572 Company Number: 06998306

Dance to Health is a programme created and managed by

aesop logo

Dance to Health is a registered trademark. © 2019 Aesop.

All rights reserved.  No part of this website may be reproduced, stored in a retrieval system, or transmitted, in any form or by any means, without the prior permission in writing of Aesop.